Mae Capital Law yn ymfalchio yn ei Gymreictod. Mae’r iaith Gymraeg yn ased ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn i’n cleientiaid.
Iaith Ewropeaidd yw’r Gymraeg ac â chymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae Capital Law yn ymdrechu i arddel yr un dwyieithrwydd ac, yn wir, amlieithrwydd sydd yn ail natur i’n cefndryd ar y cyfandir.
Nid ymgyrch arbenning gan Capital Law oedd cyflogi cynifer o Gymry Cymraeg – y bobl gorau oll, gyda’r cymwysterau gorau, y ddawn i weithredu mewn tim, a'r ymrwymiad i roi’r gwasanaeth mwyaf trylwyr, oedd y rheiny gyda’r gallu hefyd i gyfathrebu yn rhugl drwy’r iaith. Nid cyd-ddigwyddiad chwaith yw’r ffaith bod nifer helaeth o weddill Capital Law yn medru siarad ac ysgrifennu ieithoedd eraill yn rhugl, megis Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Farsi ayyb.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth (cylchlythyrau, newyddion ayyb) gan Capital Law drwy gyfrwng y Gymraeg a fyddech gystal ag ebostio Anwen Heaton (a.heaton@capitallaw.co.uk) i gadarnhau hynny.
Isod mae rhestr o’r deuddeg aelod o staff sy’n rhugl yn y Gymraeg. Am wybodaeth pellach cliciwch ar enw unrhyw un ohonynt:

|
Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt
|

|
Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt
|

|
Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt |

Yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ond wedi ymgartrefu ar gyrion Caerdydd ers dros 20 mlynedd yn dilyn astudio gradd mewn Mathameteg ym mhrifysgol Bangor. Bum yn gweithio yn adran gyllid S4C am gyfnod o bron i dair mlynedd cyn ymuno ag adran gytundebau HTV Cymru. Yn ystod fy nghyfnod yn HTV / ITV Cymru bum yn Reolwr Materion Busnes gyda chyfrifoldeb dros gynnwys cyfreithiol holl ffimiau a rhaglenni gynhyrchwyd gan ITV yng Nghymru a Gorllewin Lloegr yn ogystal a chomisiynnu, gwerthiant a dosbarthiad y rhaglenni hynny. Rwy’n defnyddio fy arbenigedd ym maes y cyfryngau yma yn Capital Law i gynhori ystod eang o gwmniau ar faterion hawlfraint ac eiddo deallusol. Rwyf hefyd wedi bod yn Is-Gadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru , yn aelod o fwrdd rheoli BAFTA Cymru ac yn aelod o Gyngor Teledwyr Annibynnol Cymru. Rwy’n gyn-chwaraewr a chefnogwr selog o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ac yn mwynhau’r sialens feicio flynyddol i godi arian at elusennau lleol.
![]() | Ysgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg Please write to me in English or Welsh |