Cymraeg

Mae Capital Law yn ymfalchio yn ei Gymreictod. Mae’r iaith Gymraeg yn ased ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd cynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn i’n cleientiaid.

Iaith Ewropeaidd yw’r Gymraeg ac â chymorth Bwrdd yr Iaith Gymraeg mae Capital Law yn ymdrechu i arddel yr un dwyieithrwydd ac, yn wir, amlieithrwydd sydd yn ail natur i’n cefndryd ar y cyfandir.

'Rydym yn falch, drwy gytundeb gydag S4C, i allu cynnig gwasanaeth gwbl ddwyieithog i gynhyrchwyr teledu annibynnol yng Nghymru. Gall gynhyrchwyr annibynnol sydd yn darparu rhaglenni ar gyfer S4C, o gofrestru ymlaen llaw gyda ni, ymweld â'n safle we penodedig drwy glicio yma.

Nid ymgyrch arbenning gan Capital Law oedd cyflogi cynifer o Gymry Cymraeg – y bobl gorau oll, gyda’r cymwysterau gorau, y ddawn i weithredu mewn tim, a'r ymrwymiad i roi’r gwasanaeth mwyaf trylwyr, oedd y rheiny gyda’r gallu hefyd i gyfathrebu yn rhugl drwy’r iaith.  Nid cyd-ddigwyddiad chwaith yw’r ffaith bod nifer helaeth o weddill Capital Law yn medru siarad ac ysgrifennu ieithoedd eraill yn rhugl, megis Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg, Farsi ayyb.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth (cylchlythyrau, newyddion ayyb) gan Capital Law drwy gyfrwng y Gymraeg a fyddech gystal ag ebostio Iestyn Morris i gadarnhau hynny.

Isod mae rhestr o’n staff sy’n rhugl yn y Gymraeg. Am wybodaeth bellach cliciwch ar enw unrhyw un ohonynt:


Nes i dyfu fyny a mynd i’r ysgol yn Nghaernarfon cyn symud i Gaerdydd i astudio’r Gyfraith. Ar ôl blwyddyn o weld y byd yn ôl y des i, i Gaer i ddechra i astudio’r LPC ac yna i Bryste am gyfnod (nes i ddim mentro yn bell o’r ffin!) cyn sicrhau swydd yn Capital Law fel cyfreithwraig o dan hyfforddiant. Mae fy hyfforddiant wedi dod i ben bellach a dwi rwan yn gweithio fel cyfreithwraig yn yr adran gyflogaeth. Mae’n bleser cael defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith gyda fy nghydweithwyr a chleientiaid pan fo gofyn.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt

 


Cefais fy magu yng Nghricieth ond dwi a’m teulu bellach wedi ymgartrefu ers blynyddoedd yng Nghaerdydd a chynefino â’r “hwntws”! Mae gen i 29 mlynedd o brofiad ym maes cyfraith tir ac eiddo, a dwi wedi cael y fraint o weithio ar rai o brosiectau datblygu mwyaf Cymru. Yn ogystal dwi’n falch iawn o gydweithio’n agos â chymdeithasau tai.

Lle mae Cymraeg yw iaith bob dydd y partion dwi’n sicr fod gweithredu trwy’r Gymraeg yn esmwytho cyd-weithrediad ac felly canlyniad gwell iddyn nhw yn y pendraw. Hoffem weld yr iaith yn cael ei hymarfer yn fwy yn y byd masnachol yn ogystal â mewn cyd-destun cymdeithasol.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt

 


Merch o Genarth, Sir Ceredigion ydw i, sef y lle harddaf yn y byd. Yn hytrach nag ymuno â busnes y teulu fe fentrais i Gaerdydd i astudio’r Gyfraith a Ffrangeg cyn cychwyn ar fy ngyrfa gyfreithiol gyda PwC Legal yn Llundain. Ond dod yn ôl i Gymru fach y penderfynais i wneud a dwi bellach wedi setlo yng Nghaerdydd. Er cyfoeth y profiadau a gefais yn Llundain dwi’n mwynhau y cyfleon sydd gan brifddinas Cymru i’w chynnig. Ac wrth gwrs, dwi’n ddigon agos i allu dianc yn ôl i’r Gorllewin ar y penwythnosau.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt


Merch o Aberystwyth ydw i a ches i fy magu ar aelwyd Gymraeg yn sŵn y diwylliant Gymreig. Tra mod i’n byw lot fawr o’m bywyd cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg, do’n i erioed wedi disgwyl y byddai cymaint o alw am ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol yn y byd cyfreithiol. Er mai yng Nghaerdydd wnes i hyfforddi prin oeddwn yn gweithredu drwy’r Gymraeg bryd hynny, a dwi’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle i wneud hynny nawr yn Capital Law. Mae’n gysur mawr i mi ac i’r cleientiaid, sy’n amlach na pheidio yn teimlo llawer mwy cyfforddus yn siarad yn ei Mamiaith.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt


Yn wreiddiol o Fangor, treuliais dair mlynedd orau fy mywyd ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Bellach, wedi blwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio’r LPC mi rydw i’n mwynhau fy mywyd fel cyfreithiwr dan hyfforddiant yma yn Capital Law. Dwi’n aelod brŵd o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd, a phan fo’r tywydd yn caniatau, credaf mai’r ffordd orau i ollwng stêm yw rownd o golff!

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt


Mae fy Nghymraeg bellach yn gymysgedd o iaith y gorllewin, y gogledd a’r de. Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin cyn symud i ardal Aberogwr ger Penybont ar Ogwr pan yn blentyn bach. Mae gwreiddiau’r teulu, serch hynny, yn ddwfn yn y Gorllewin – Sir Gâr a Sir Ceredigion - ac i Aberystwyth yn wir yr es i i’r Coleg ar ôl treulio saith mlynedd hapus iawn yn Ysgol Gyfun Llanhari. Mentrais wedyn dros wedyn glawdd Offa i dde Orllewin Lloegr ond er debyced yr ardal honno i Gymru, roedd tynfa’r henwlad yn ormod. Bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd mae’n fraint cael cyflawni cyfran helaeth o’m gwaith beunyddiol yn Capital Law drwy’r Gymraeg. Cymraeg yw iaith yr aelwyd hefyd, a merch o Fôn sydd yn cywiro iaith yr hwntw!

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt


Yn wreiddiol o Gaerdydd, ac yn gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, es i ffwrdd i Loegr i wneud gradd Llenyddiaeth Saesneg, wedyn cwrs cyfnewid i’r Gyfraith. Ar ôl gorffen astudio, des i nol i Gaerdydd i gymhwyso fel cyfreithwraig. Ers hynny rwyf wedi gwneud llawer o waith cyfreithiol yn y Gymraeg oherwydd fy nghysylltiadau gyda chwmniau’r cyfryngau yng Nghymru. Symudodd fy rhieni o Landeilo Sir Gaerfyrddin, a Llangynog Sir Drefaldwyn yn y chwe degau er mwyn dilyn gyrfaoedd yng Nghaerdydd, a magwyd fy chwaer a fi mewn awyrgylch gwbl Gymraeg. Mae fy chwaer bellach yn gyfreithwraig yn y CPS, ble mae hithau hefyd yn gwneud ei gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, pryd bynnag sy’n bosib.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt


Yn wreiddiol o Lanrug yn Ngogledd Cymru, cefais fy nhywys gan oleuadau llachar y brif ddinas yn 2003. Ar ôl cyflawni fy astudiaethau israddedig ac LPC ym Mhrifysgol Caerdydd, rwyf bellach yn gyfreithiwr dan-hyfforddiant yn yr adran cyfraith corfforaethol yn Capital Law.

Rwy’n cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, yn enwedig pan yn ystyried y cynydd diweddar ym mhwerau deddfu y Cynulliad a’r effaith gaiff hyn ar fenterau a busnesau hyd a lled Cymru.

Yn fy amser sbâr rwy’n genfogwr brŵd o dim pêl-droed Lerpwl, er mawr fy siom ar ddiffyg cwpan neu gynghrair pob blwyddyn, ac yn mwynhau chwarae nodau drwg ar y trombon gyda band prês Tredegar.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt

 


Yn wreiddiol o Ddyffryn Clwyd ond wedi ymgartrefu ar gyrion Caerdydd ers dros 20 mlynedd yn dilyn astudio gradd mewn Mathameteg ym mhrifysgol Bangor. Bum yn gweithio yn adran gyllid S4C am gyfnod o bron i dair mlynedd cyn ymuno ag adran gytundebau HTV Cymru. Yn ystod fy nghyfnod yn HTV / ITV Cymru bum yn Reolwr Materion Busnes gyda chyfrifoldeb dros gynnwys cyfreithiol holl ffimiau a rhaglenni gynhyrchwyd gan ITV yng Nghymru a Gorllewin Lloegr yn ogystal a chomisiynnu, gwerthiant a dosbarthiad y rhaglenni hynny. Rwy’n defnyddio fy arbenigedd ym maes y cyfryngau yma yn Capital Law i gynhori ystod eang o gwmniau ar faterion hawlfraint ac eiddo deallusol. Rwyf hefyd wedi bod yn Is-Gadeirydd Bwrdd Theatr Genedlaethol Cymru , yn aelod o fwrdd rheoli BAFTA Cymru ac yn aelod o Gyngor Teledwyr Annibynnol Cymru. Rwy’n gyn-chwaraewr a chefnogwr selog o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd ac yn mwynhau’r sialens feicio flynyddol i godi arian at elusennau lleol.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt

 

 


Yn dilyn blynyddoedd o weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru, S4C a sawl ffyrm yn Llundain a Chaerdydd, mae gan Ian brofiad eang o fod yn gymorth i dimau cyfreithiol. Arwahan i’w gefndir gweinyddol, mae gan Ian brofiad o weithio fel actor ac arweinydd gweithfeydd theatr gyda chwmniau yng Nghymru a thu-draw i glawdd Offa.

Cliciwch yma i weld fy mhroffil a’m manylion cyswllt

 

Working Welsh logoYsgrifennwch ataf yn Gymraeg neu Saesneg

Please write to me in English or Welsh